Footie Families: Where children and their parents fall in love with football together
By Jack Cook
In 2020 the FAW Trust launched Footie Families to get parents and young children learning to play football together at home.
It is designed to develop fundamental movement skills.
Programme researcher Anna Stevenson and the team brought Footie Families to life over lockdown.
She said: “I began my journey with Footie Families in October 2019, when the programme was in its early stages.”
With the lockdown in March, Footie Families was set to be delayed but Anna and the team found a creative way of bringing Footie Families to the homes of Wales by creating videos for the parents to use to keep their children active and develop key skills important for the future.
Yn 2020 lansiodd Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru ‘Footie Families’ i gael rhieni a phlant ifanc i ddysgu chwarae pêl-droed gyda'i gilydd gartref.
Mae ‘Footie Families’ wedi'i gynllunio i rieni a'u plant ifanc chwarae gyda'i gilydd a chymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog, er mwyn helpu i ddatblygu sgiliau symud sylfaenol.
Daeth ymchwilydd y rhaglen Anna Stevenson a'i thîm â ‘Footie Families’ yn fyw yn ystod y cyfyngiadau symud.
Dywedodd: "Fe ddechreuais i ar fy siwrnai gyda ‘Footie Families’ ym mis Hydref 2019, pan oedd y rhaglen yn ei chamau cynnar."
Gyda'r cyfyngiadau symud ym mis Mawrth, roedd ‘Footie Families’ ar fin cael ei ohirio, ond oherwydd penderfyniad Anna a'i thîm, dyma feddwl am ffordd greadigol o gyflwyno ‘Footie Families’ i gartrefi Cymru drwy greu fideos i rieni eu defnyddio i gadw eu plant yn egnïol a datblygu sgiliau allweddol sy’n bwysig ar gyfer y dyfodol.
She said: “We wanted to put together something which mirrored what the Footie Families programme intended to provide in the sessions, so we created short and engaging videos demonstrating different activities. We made sure we included a throwing and catching activity, a kicking or dribbling activity and a little obstacle course. We also showed how families could use their household items, for instance, one of the activities involved collecting sock balls with a frying pan!
The intention was to make it as accessible as possible for parents to play at home using short and sharp little videos which would excite the children.”
“Although it was great to offer these online resources during the lockdown, I think that even when parents come to practical sessions, the coaches can direct parents to the website if they want ideas of activities to do at home!
So all the effort we put in during the lockdown can be utilised long term.”
Anna and the Footie Families team now look to the future as they want to bring regular sessions to families across Wales to help young children develop in a fun way and engage parents to be active with their little ones!
“We want to use this next phase of the programme to get parents and coaches feedback and improve the programme as much as we can by figuring out what works well and what maybe needs tweaking!”
“There's been interest from other areas who may want to run a Footie Families franchise because there is a real demand for programmes for under-fives and Footie Families takes a unique physical literacy approach with active involvement from parents.”
Dywedodd: "Roedden ni eisiau creu rhywbeth fyddai’n adlewyrchu'r hyn roedd rhaglen ‘Footie Families’ wedi bwriadu ei ddarparu yn y sesiynau, felly dyma greu fideos byr a diddorol yn arddangos gwahanol weithgareddau. Fe wnaethon ni sicrhau ein bod yn cynnwys gweithgaredd taflu a dal, gweithgaredd cicio neu ddriblo a chwrs rhwystrau bach. Hefyd fe wnaethon ni ddangos sut gallai teuluoedd ddefnyddio rhai eitemau yn y cartref, er enghraifft, roedd un o’r gweithgareddau’n cynnwys casglu peli sanau gyda phadell ffrïo. Y nod oedd gwneud pethau mor hygyrch â phosib i rieni chwarae gartref gan ddefnyddio fideos bach byr a chryno i gyffroi’r plant hefyd yn ddelfrydol. "
"Er ei fod yn grêt cynnig yr adnoddau ar-lein yma yn ystod y cyfyngiadau symud, hyd yn oed pan fydd y rhieni’n dod i'r sesiynau ymarferol yn y Flwyddyn Newydd gobeithio, fe all yr hyfforddwyr gyfeirio rhieni at y wefan os ydyn nhw eisiau syniadau ar gyfer gweithgareddau i'w gwneud gartref! Felly bydd yr holl ymdrech wnaethon ni yn ystod y cyfyngiadau symud yn ddefnyddiol yn y tymor hir, yn enwedig gan ei fod yn adlewyrchu'r stwff ymarferol yn dda!"
Mae Anna a thîm ‘Footie Families’ bellach yn edrych tua'r dyfodol gan eu bod eisiau cyflwyno sesiynau rheolaidd i deuluoedd ledled Cymru i helpu plant ifanc i ddatblygu mewn ffordd hwyliog a denu rhieni i fod yn egnïol gyda’u rhai bach!
"Rydyn ni eisiau defnyddio'r cam nesaf yma i gael adborth rhieni a hyfforddwyr a gwella'r rhaglen gymaint ag y gallwn ni drwy weld beth sy'n gweithio'n dda a beth sydd angen ei addasu efallai!”
"Mae diddordeb wedi bod o ardaloedd eraill sydd eisiau gweithredu masnachfraint ‘Footie Families’ efallai, oherwydd mae galw gwirioneddol am raglenni i blant dan bump oed ac mae ‘Footie Families’ yn ddull unigryw o gynnig llythrennedd corfforol gyda chyfranogiad gan y rhieni.”