Return to Football: How the Welsh Football Family worked together during the Covid-19 pandemic
Back in January ambitious plans were made to develop football, across Wales.
By March, the Coronavirus pandemic meant many of them were put on hold as the nation went into lockdown.
But, through this tough time, an army of amazing football volunteers, in every corner of Wales, made sure their clubs have continued to engage with their members and played an important role within their communities.
Head of Football Development Aled Lewis said: “This year has been a challenge for everybody but the pandemic has shown how resilient and innovative our clubs, leagues and partners are and I’ve been really overwhelmed by how flexible and adaptable they've been to deliver a range of different activities during lockdown and quickly implement the COVID-19 guidelines to keep everybody safe as we returned to football.”
Clubs with disability teams faced many logistical problems and most have had to be very adaptable to implementing the FAW guidelines into their own settings.
One of our priorities for 2020 was to implement major changes to mini-football and Wales’ new small-sided football regulations were created after many years of researching and consulting with players, clubs and leagues to identify the best ways to develop our young players.
The new regulations were approved by our Community Game Board in early July and were launched with a series of webinars for clubs and leagues during the same month.
Unfortunately, due to COVID-19 restrictions most leagues weren’t able to implement them until October.
Aled said: “It’s been brilliant to see how the whole of Welsh football has come together and supported each other in 2020 as we're all facing the same pandemic and it isn’t unique to just certain parts of Wales.”
Yn ôl ym mis Ionawr gwnaed cynlluniau uchelgeisiol i ddatblygu pêl-droed, ledled Cymru.
Erbyn mis Mawrth, roedd pandemig y Coronafeirws yn golygu bod llawer ohonynt wedi'u gohirio wrth i'r wlad gael ei rhoi o dan gyfyngiadau symud.
Ond, drwy'r cyfnod anodd hwn, fe wnaeth byddin o wirfoddolwyr pêl-droed anhygoel, ym mhob cwr o Gymru, sicrhau bod eu clybiau’n parhau i ymgysylltu â'u haelodau a chwarae rhan bwysig yn eu cymunedau.
Dywedodd y Pennaeth Datblygu Pêl-droed, Aled Lewis: "Mae eleni wedi bod yn her i bawb ond mae'r pandemig wedi dangos pa mor wydn ac arloesol yw ein clybiau, ein cynghreiriau a’n partneriaid ni ac rydw i’n llawn edmygedd o ba mor hyblyg a pharod i addasu ydyn nhw er mwyn darparu amrywiaeth o wahanol weithgareddau yn ystod y cyfyngiadau symud a gweithredu canllawiau COVID-19 yn gyflym i gadw pawb yn ddiogel wrth i ni ddychwelyd at bêl-droed."
Roedd clybiau â thimau anabledd yn wynebu llawer o broblemau logistaidd ac mae'r rhan fwyaf wedi gorfod addasu'n fawr i weithredu canllawiau Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn eu lleoliadau eu hunain.
Un o'n blaenoriaethau ni ar gyfer 2020 oedd gweithredu newidiadau mawr i bêl-droed mini a chrëwyd rheoliadau pêl-droed timau bach newydd Cymru ar ôl blynyddoedd lawer o ymchwilio ac ymgynghori â chwaraewyr, clybiau a chynghreiriau i nodi'r ffyrdd gorau o ddatblygu ein chwaraewyr ifanc.
Cymeradwywyd y rheoliadau newydd gan ein Bwrdd Gemau Cymunedol ddechrau mis Gorffennaf ac fe'u lansiwyd gyda chyfreso weminarau ar gyfer clybiau a chynghreiriau yn ystod yr un mis.
Yn anffodus, oherwydd cyfyngiadau COVID-19, nid oedd y rhan fwyaf o’r cynghreiriau’n gallu eu gweithredu tan fis Hydref.
Dywedodd Aled: "Mae wedi bod yn wych gweld sut mae’r byd pêl-droed ledled Cymru wedi dod at ei gilydd a chefnogi ein gilydd yn 2020 gan ein bod ni i gyd yn wynebu'r un pandemig ac nid yw'n unigryw i rai rhannau o Gymru yn unig."

But even during the depths of lockdown, some football activity was able to continue.
Our Huddle, Fun Football and Footie Families programmes were all adapted to allow younger children to fall in love with football at home, alongside parents, siblings and anybody else in their household.
These digital resources were created by our innovative football development team, who made sure kicking footballs became a part of lockdown life in every corner of Wales.
Aled said: “We would have loved to have delivered more football opportunities in-person and been able to expand our provision but it was difficult because of the pandemic.”
“What we did manage to do was pleasing because we’ve been able to engage with new players, volunteers and parents through our online engagement, Huddle at Home sessions and the delivery of our Grassroots Football Awards virtually”.
“These not only gave families an opportunity to participate in football during lockdown but provided many with relief and respite from what was obviously a challenging time. Credit must go to our fantastic Football Development team who created and provided these digital opportunities and it will become part of our plan to ensure football is available and open to all and everybody gets the same level of opportunity to play.”
In 2021 there is hope that football can flourish in the 'new normal' and our key priorities are as follows ...
- Continue to support clubs and leagues to return of football safely
- Support leagues to implement small-sided football regulations at U12s and U13s age groups
- Deliver a series of engaging events to connect the football family to Wales’ participation at EURO 2020
- Provide more opportunities for girls to play in a school setting through our Disney Playmakers and Be Football programmes
- Increase the number of Huddle centres across Wales
- Launch our online club support platform ‘Club Cymru’
- Further support clubs and leagues in providing inclusive opportunities
- Increase the network of disability specific football opportunities across Wales
- Establish a network of engaging school-based participation, competition and educational opportunities
Ond hyd yn oed yn ystod cyfnod gwaethaf y cyfyngiadau symud, roedd rhywfaint o weithgarwch pêl-droed yn gallu parhau.
Cafodd ein rhaglenni Huddle, Pêl-droed Hwyl a Footie Families eu haddasu i gyd fel bod plant iau’n gallu syrthio mewn cariad â phêl-droed gartref, ochr yn ochr â rhieni, brodyr a chwiorydd ac unrhyw un arall yn eu cartref.
Crëwyd yr adnoddau digidol hyn gan ein tîm datblygu pêl-droed arloesol, a wnaeth yn si?r bod cicio pêl yn dod yn rhan o fywyd
y cyfyngiadau symud ym mhob cwr o Gymru. Dywedodd Aled: "Fe fyddem wedi bod wrth ein bodd yn darparu mwy o gyfleoedd pêl-droed wyneb yn wyneb a gallu ehangu ein darpariaeth ond roedd yn anodd oherwydd y pandemig."
"Roedd yr hyn wnaethom lwyddo i'w wneud yn braf oherwydd ein bod wedi gallu ymgysylltu â chwaraewyr, gwirfoddolwyr a rhieni newydd drwy ein hymgysylltu ar-lein, sesiynau Huddle yn y Cartref a chyflwyno ein Dyfarniadau Pêl-droed ar Lawr Gwlad yn rhithwir".
"Roedd y rhain nid yn unig yn rhoi cyfle i deuluoedd gymryd rhan mewn pêl-droed yn ystod y cyfyngiadau symud ond hefyd yn rhoi seibiant i lawer o'r hyn a oedd yn amlwg yn gyfnod heriol. Rhaid rhoi clod i'n tîm Datblygu Pêl-droed gwych wnaeth greu a darparu’r cyfleoedd digidol hyn a byddant yn dod yn rhan o'n cynllun i sicrhau bod pêl-droed ar gael ac yn agored i bawb a bod pawb yn cael yr un lefel o gyfle i chwarae."
Yn 2021 mae gobaith y gall pêl-droed ffynnu yn y 'normal newydd' ac mae y blaenoriaethau allweddol fel a ganlyn...
- Parhau i gefnogi clybiau a chynghreiriau i ddychwelyd at bêl-droed yn ddiogel
- Cefnogi cynghreiriau i weithredu rheoliadau pêl-droed timau bach mewn grwpiau oedran dan 12 a dan 13
- Cyflwyno cyfres o ddigwyddiadau difyr i gysylltu'r teulu pêl-droed â chyfranogiad Cymru yn EWROS 2020
- Darparu mwy o gyfleoedd i ferched chwarae mewn ysgolion drwy ein rhaglenni Disney Playmakers a Be Football
- Cynyddu nifer y canolfannau Huddle ledled Cymru
- Lansio ein platfform cefnogi clybiau ar-lein 'Club Cymru'
- Cefnogi clybiau a chynghreiriau ymhellach i ddarparu cyfleoedd cynhwysol
- Cynyddu'r rhwydwaith o gyfleoedd pêl-droed sy'n benodol i anabledd ledled Cymru
- Sefydlu rhwydwaith o gyfranogiad, cystadlaethau a chyfleoedd addysgol difyr mewn ysgolion