Prif Swyddog Gweithredol Ymddiriedolaeth FAW Neil Ward
Prif bennawd Adroddiad 2019 yw bod nifer y benywod cofrestredig wedi cyrraedd 8,245 o chwaraewyr, gan sicrhau ein bod ni ar y llwybr i gyflawni ein dau nod uchelgeisiol dwy lefel ar gyfer gêm y merched a’r genethod:-
1) Pêl-droed i ddod yn gamp dîm rhif un ar gyfer menywod erbyn 2020; a
2) Cyfranogiad benywaidd i gynyddu i 20,000 o chwaraewyr cofrestredig erbyn 2024.
Mae amrywiaeth a chynhwysiant yn parhau i fod yn elfen allweddol o’n gwaith ni ac mae cynnydd o’r fath yn helpu i dynnu sylw at lwyddiant presennol a’r potensial ar gyfer y dyfodol.
Yn 2019, symudwyd gennym i flwyddyn derfynol Strategaeth ‘Mwy Na Gêm’ FAW ar gyfer pêl-droed Cymru ac rydym wedi dechrau gweithio ar ddatblygu cynllun corfforaethol ar gyfer y degawd nesaf. Penodwyd aelodau newydd i’r bwrdd ac maent wedi ymrwymo i wella cydraddoldeb y rhywiau o ran aelodaeth bwrdd o 20% i ddim llai na 40% wrth i aelodaeth y bwrdd barhau i newid.
Mwynhewch yr Adroddiad!
STRAEON LLWYDDIANNUS
Mae ein rhaglen Pêl-droed Hwyliog McDonald's yn rhoi eu profiadau cyntaf o bêl-droed trefnus i blant 5 i 11 oed. Mae ein 22 o ddarparwyr, ar hyd a lled Cymru, yn rhoi amgylchedd diogel a chyffrous i’r plant fwynhau eu cic drefnus gyntaf.
EFFAITH AR BÊL-DROED MERCHED
Mae ein rhaglen Huddle yn gyfle cyntaf i ferched 5 i 11 oed syrthio mewn cariad â phêl-droed. Mae ein 23 o ddarparwyr, ar hyd a lled Cymru, yn rhoi amgylchedd pleserus i ferched gael hwyl, gwneud ffrindiau a chwarae pêl-droed fel rhan o raglen 12 wythnos gyffrous, sy’n eu paratoi ar gyfer cynnydd, os ydynt yn dymuno.
Yn 2018/19, cwblhaodd Carrie Jones ei siwrnai ryfeddol o bêl-droed ar lawr gwlad i dîm h?n Cymru cyn ei phen-blwydd yn 16 oed. Priodolodd ei datblygiad hynod gyflym i’w hyfforddwyr ac mae’n ymweld yn rheolaidd â’i hen glybiau ac ysgolion.
EFFAITH AR WIRFODDOLWYR
Dewch i gyfarfod Ayah Abduldaim, merch ifanc 19 oed nodedig o Gymru sy’n annog merched o gymunedau Duon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (DALlE) i chwarae pêl-droed. Ayah sy’n gyfrifol bod merched 14 i 16 oed yn chwarae pêl-droed yn rheolaidd yng nghymunedau mwyaf anodd eu cyrraedd Caerdydd.
EFFAITH AR BÊL-DROED I BAWB
Mae Cics Cymru yn rhaglen a sefydlwyd mewn partneriaeth â’r Uwch Gynghrair a Llywodraeth Cymru a’r nod yw cael ieuenctid newydd i syrthio mewn cariad â phêl-droed, gan gynnwys merched a’r rhai difreintiedig ac o gefndiroedd DALlE.
EFFAITH AR BÊL-DROED ANABLEDD
Pan oedd diffyg pêl-droed anabledd yng Ngorllewin Cymru yn broblem, cydweithredu oedd yr ateb. Gan weithio gyda Chlwb Pêl-droed Iau Rhydaman, Cyngor Sir Gâr, Ymddiriedolaeth Gymunedol Dinas Abertawe a Chwaraeon Cymru, aethom ati i greu tîm newydd ffyniannus gydag uchelgais i dyfu.
EFFAITH AR GYFLEUSTERAU
Pan dyfodd Cynghrair Mini Caerfyrddin i 126 o dimau, roedd angen lle newydd i chwarae. Diolch i gefnogaeth Clwb Pêl-droed Tref Caerfyrddin ac Ysgol Maes y Gwendraeth, mae timau newydd y gynghrair yn chwarae ar arwynebau 3G yn awr, bob dydd Sadwrn.
EFFAITH AR HYFFORDDIANT CYNHWYSOL
Yn 2019, cafodd ein rhaglen Tystysgrif C ei theilwra i helpu dioddefwr dyspracsia, Morgan Basham, i gwblhau’r cwrs a pharhau ar ei siwrnai hyfforddi. Er gwaethaf cyfyngiadau ei gyflwr, cwblhaodd Morgan yr oriau cyswllt angenrheidiol ac mae’n hyfforddi’n rheolaidd yn awr mewn dau glwb.
PRIF NODAU A CHYNNYDD
PRIF NODAU (TARGEDAU 2024)
CYNNYDD (FFIGURAU PRESENNOL)
ADRODDIAD ARIANNOL
To get access to the latest FAW Trust news, courses and coaching.