Prif Swyddog Gweithredol Ymddiriedolaeth FAW Neil Ward

2Neil.jpg

Prif bennawd Adroddiad 2019 yw bod nifer y benywod cofrestredig wedi cyrraedd 8,245 o chwaraewyr, gan sicrhau ein bod ni ar y llwybr i gyflawni ein dau nod uchelgeisiol dwy lefel ar gyfer gêm y merched a’r genethod:-

  • 1) Pêl-droed i ddod yn gamp dîm rhif un ar gyfer menywod erbyn 2020; a

    2) Cyfranogiad benywaidd i gynyddu i 20,000 o chwaraewyr cofrestredig erbyn 2024.

    Mae amrywiaeth a chynhwysiant yn parhau i fod yn elfen allweddol o’n gwaith ni ac mae cynnydd o’r fath yn helpu i dynnu sylw at lwyddiant presennol a’r potensial ar gyfer y dyfodol. 

  • Yn 2019, symudwyd gennym i flwyddyn derfynol Strategaeth ‘Mwy Na Gêm’ FAW ar gyfer pêl-droed Cymru ac rydym wedi dechrau gweithio ar ddatblygu cynllun corfforaethol ar gyfer y degawd nesaf. Penodwyd aelodau newydd i’r bwrdd ac maent wedi ymrwymo i wella cydraddoldeb y rhywiau o ran aelodaeth bwrdd o 20% i ddim llai na 40% wrth i aelodaeth y bwrdd barhau i newid.

  • Un ffocws allweddol yw gwella cyfleusterau pêl-droed felly aethom ati i greu Gweithgor Strategol ar gyfer Cyfleusterau Clwb a Chymunedol sydd wedi gwella buddsoddiad a gwaith yr FAW ac Ymddiriedolaeth FAW ar y cyd. Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu modelau cyfleusterau gweithredu newydd ar gyfer clybiau a £300,000 gan Chwaraeon Cymru ar gyfer prosiectau cyfleusterau clybiau a chymunedau.
  • Cafwyd hwb i gyfranogiad pêl-droed merched ar ôl datblygu ‘Huddle’, menter newydd yn darparu sesiynau pêl-droed i ferched yn unig, ar gyfer y gr?p oedran 5 i 12 oed. Roedd cyfranogiad y merched yn uwch nag erioed yn 2019 gyda chofrestriadau clwb wedi cyrraedd 8,245, gan sicrhau ein bod ar y llwybr i gyrraedd ein targed strategol ar gyfer 2020 o fod y gamp dîm fwyaf i ferched yng Nghymru. 
  • Bydd dull a phwyslais o’r newydd fel rhan o’n gwaith mewn ysgolion a’r sector addysg ehangach y flwyddyn nesaf, yn dilyn adolygiad annibynnol o bêl-droed mewn addysg. Mae Cynllun Gweithredu wedi cael ei greu i gyflawni argymhellion adroddiad yr adolygiad. Mae’r blaenoriaethau’n cynnwys gwella’r ddarpariaeth i ferched mewn ysgolion uwchradd, gwella hyfforddiant athrawon a dyfarniad Arweinwyr Pêl-droed newydd ar gyfer myfyrwyr 14 i 16 oed, i gefnogi darpariaeth bêl-droed sy’n cael ei harwain gan ieuenctid.
  • Mae datblygiad Parc Colliers yr FAW, canolfan hyfforddi a datblygu ranbarthol newydd gwerth +£5M ger Wrecsam, yn gyfle arwyddocaol i ddarparu gwell cefnogaeth i chwaraewyr a hyfforddwyr yng Ngogledd Cymru. Cafodd y cyfleuster ei agor yn swyddogol ym mis Medi 2019 a bydd yn cefnogi datblygiad hwb pêl-droed i ferched gyda’r llwybr llawn o gyfleoedd cymryd rhan o lefel iau i lefel h?n, ynghyd â chynnydd i sgwadiau perfformio ar gyfer y chwaraewyr mwyaf talentog. 
  • Rwyf yn gobeithio eich bod yn rhannu fy malchder yn ein cyflawniadau yn ystod 2019, sydd wedi’u nodi isod. Edrychwn ymlaen at y flwyddyn sydd i ddod gydag ymrwymiad cyson a rheolaidd i gyflawni ein blaenoriaethau a’n nodau ac i sicrhau bod pawb, heb ystyried gallu, anabledd neu amgylchiadau cymdeithasol, yn cael cyfle i chwarae’r gêm mewn amgylchedd diogel, hwyliog a phleserus ac y gall y rhai gyda’r sgiliau a’r uchelgais gyflawni eu potensial.     

Mwynhewch yr Adroddiad!

STRAEON LLWYDDIANNUS

EFFAITH AR GYFRANOGIAD1Fun-Football-AR.jpg

Mae ein rhaglen Pêl-droed Hwyliog McDonald's yn rhoi eu profiadau cyntaf o bêl-droed trefnus i blant 5 i 11 oed. Mae ein 22 o ddarparwyr, ar hyd a lled Cymru, yn rhoi amgylchedd diogel a chyffrous i’r plant fwynhau eu cic drefnus gyntaf. 

EFFAITH AR BÊL-DROED MERCHED

1Huddle-AR.jpg

Mae ein rhaglen Huddle yn gyfle cyntaf i ferched 5 i 11 oed syrthio mewn cariad â phêl-droed. Mae ein 23 o ddarparwyr, ar hyd a lled Cymru, yn rhoi amgylchedd pleserus i ferched gael hwyl, gwneud ffrindiau a chwarae pêl-droed fel rhan o raglen 12 wythnos gyffrous, sy’n eu paratoi ar gyfer cynnydd, os ydynt yn dymuno.        

EFFAITH AR DALENT NEWYDD1Carrie-SQ.jpg

Yn 2018/19, cwblhaodd Carrie Jones ei siwrnai ryfeddol o bêl-droed ar lawr gwlad i dîm h?n Cymru cyn ei phen-blwydd yn 16 oed. Priodolodd ei datblygiad hynod gyflym i’w hyfforddwyr ac mae’n ymweld yn rheolaidd â’i hen glybiau ac ysgolion.               

EFFAITH AR WIRFODDOLWYR

99Ayah.jpg

Dewch i gyfarfod Ayah Abduldaim, merch ifanc 19 oed nodedig o Gymru sy’n annog merched o gymunedau Duon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (DALlE) i chwarae pêl-droed. Ayah sy’n gyfrifol bod merched 14 i 16 oed yn chwarae pêl-droed yn rheolaidd yng nghymunedau mwyaf anodd eu cyrraedd Caerdydd.

EFFAITH AR BÊL-DROED I BAWB

1Ccics-Cymu.jpg

Mae Cics Cymru yn rhaglen a sefydlwyd mewn partneriaeth â’r Uwch Gynghrair a Llywodraeth Cymru a’r nod yw cael ieuenctid newydd i syrthio mewn cariad â phêl-droed, gan gynnwys merched a’r rhai difreintiedig ac o gefndiroedd DALlE.        

EFFAITH AR BÊL-DROED ANABLEDD

4AF.jpg

Pan oedd diffyg pêl-droed anabledd yng Ngorllewin Cymru yn broblem, cydweithredu oedd yr ateb. Gan weithio gyda Chlwb Pêl-droed Iau Rhydaman, Cyngor Sir Gâr, Ymddiriedolaeth Gymunedol Dinas Abertawe a Chwaraeon Cymru, aethom ati i greu tîm newydd ffyniannus gydag uchelgais i dyfu.

EFFAITH AR GYFLEUSTERAU

1Carmarthen.jpg

Pan dyfodd Cynghrair Mini Caerfyrddin i 126 o dimau, roedd angen lle newydd i chwarae. Diolch i gefnogaeth Clwb Pêl-droed Tref Caerfyrddin ac Ysgol Maes y Gwendraeth, mae timau newydd y gynghrair yn chwarae ar arwynebau 3G yn awr, bob dydd Sadwrn.

EFFAITH AR HYFFORDDIANT CYNHWYSOL

1Inclusive-Coaching.jpg

Yn 2019, cafodd ein rhaglen Tystysgrif C ei theilwra i helpu dioddefwr dyspracsia, Morgan Basham, i gwblhau’r cwrs a pharhau ar ei siwrnai hyfforddi. Er gwaethaf cyfyngiadau ei gyflwr, cwblhaodd Morgan yr oriau cyswllt angenrheidiol ac mae’n hyfforddi’n rheolaidd yn awr mewn dau glwb.

PRIF NODAU A CHYNNYDD 

PRIF NODAU (TARGEDAU 2024)

1Trust-Goals-CYM.jpg

CYNNYDD (FFIGURAU PRESENNOL)

1IMPACT-REPORT-RESULTS-CYM.jpg

ADRODDIAD ARIANNOL

1Financial-Statement.jpg

2Financial-Report.jpg