Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd i’r Byddariaid yn Bencampwyr!
26 November 2013

Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd i’r Byddariaid yn Bencampwyr!

Daeth dawn a gallu i’r amlwg ddydd Sul yn Nhŷ Chwaraeon Dinas Caerdydd yng nghystadleuaeth Cwpan Futsal Cymru i’r Byddariaid. Daeth timau o Abertawe, Casnewydd, Bryste a Chaerdydd i gystadlu am yr anrhydedd o fod y pencampwyr cyntaf.

Roedd y gemau yn gystadleuol iawn gyda llawer o ganlyniadau agos. Ar ôl cymalau ‘round robin’ aeth timau o Abertawe a Chaerdydd drwodd i’r rownd derfynol gyda thîm y brifddinas yn fuddugol o 4-0.

I wybod mwy am dimau i’r byddariaid sy’n agos atoch, ewch i’r tudalenau isod: